The Parent Network, Caerphilly - information exchange for parents in Southern Wales and beyond!

Tudalen Tadau

Tudalen
Gartref

Amdanom ni

Tudalen Gwybodaeth

Newyddion

Lleisio eich
barn!

Cysylltiadau Gwefannau
defnyddiiol
eraill

Cysylltu
/Gwybodaeth

Ymweliad â 'Dads R Us' Casnewydd

Cynhaliwyd ymweliad lwyddiannus a'r grwp 'Dads R Us' ar y 1af o Fai. Mynychwyd y sesiwn foreol gan aelodau o'r wefan ac roedd y tadau o 'Dads R Us' yn groesawgar iawn ac atebwyd llawer o'r cwestiganau'n amyneddgar iawn. Gwelom fideo o'r pantomeim Nadolig a cytunodd pawb bod gwaith da yn cael ei wneud gyda'r tadau a'r plant.Mae'r wefan yn edrych yn fanwl ar ddatblygu gwaith y tadau ymhellach y flwyddyn nesa felly cadwch lygaid ar y datblygiadau.


Cynhadledd Tadau'n Uniongyrchol

Bu ein swyddog datblygu Ann yn ffodus iawn i gymryd ran mewn cynhadledd ar dadolaeth (fatherhood) a gynhaliwyd yn Llundain ar y 5ed o Ebrill 2004.

Mae ymchwil yn dangos bod cael rôl tad positif yn anhepgori iach i blentyn yn emosiynol ag yn addysgiadol. Mae felly'n dra phwysig bod sefydliadau yn ymwybodol ar sut mae cynnwys tadau a sut mae datblygu gwasanaeth sy'n gyfeillgar dadol.

Mae'r wefan yn gobeithio cael arian i gyflogi gweithiwr i ymwneud yn benodol gyda thadau. Bydd y wybodaeth a gafwyd o'r gynhadledd yn ffurfio rhan o'r gwaith ymarferol.

Bydd adroddiad byr o'r gynhadledd yn cael ei gyhoeddi'n fuan ar y wefan.

Cyswllt defnyddiol - http://www.fathersdirect.com/


Data Diddorol am Dadau

Eisiau bod yn dad cwl? ....... Dad mae plant ifanc wrth eu bodd yn gwneud pethau gyda'u rhieni, eisiau oedolion i fod yn ymwybodol ohonynt a beth mae nhw'n wneud. Mae plant eisiau i Dad fod yn 'active', cael diddordebau, chwaraeon hobiau, ac i fod yn llawer o hwyl. Mae plant â'r angen i wybod eu bod yn cael caru hyd yn oed os ydy'r rhieni yn grac gyda nhw neu'n cweryla rhwng ei gilydd.

Mae plant hyn eisiau cael eu trin yn gyfartal. Mae plant iau eisiau roi barn.

"Your children love you. They want to play with you. How long do you think it will last? ... We have a few short years with our children when they're the ones that want us around. After that, you'll be running after them for a bit of attention. It's so fast, Peter, just a few years and it's over ... and you are missing it." - Wendy speaking to Peter in "Hook"

Mae plant yn llawer mwy tebygol o droseddu os nad oes perthynas dda rhyngddyn nhw a'u tad.

Mewn ysgolion mae tua 90% o blant sy â phroblemau ymddygiad yn fechgyn.

Funny! ... the TV chef Gordon Ramsey on herbs. "We haven't agreed a name yet. But I love the herb coriander and I thought it would make a great name for a girl. Had it been a boy, I suppose the obvious name would be Basil!"

* Extracts taken from FatherWork Magazine.