|
|
|||
|
Beth sy'n digwydd?Yn y fan yma
cewch wybod beth sy'n digwydd ar gyfer rhieni, gwarchodwyr, a gofalwyr o fewn bwrdeisdref
Caerffili. Bydd materion lleol a chenedlaethol yn cael eu trafod. Os oes unrhyw newyddion
gyda chi yr hoffech ledu neu ei rannu
e-bostiwch ni. Gingerbread
- Grwp Newydd Dadau! Rydym ar fin gwneud rhywbeth ar eich cyfer chi. Gwyliwch y rhan yma a gadewch i ni wybod eich syniadau chi am beth i'w gynnwys. Mae'r
rhaglen 'Right from the Start Parenting' yn eich heisiau chi
Diolch i'r
'Prosiect Chwarae Creadigol' Lluniau yn yr Arddangosfa:
Newyddion Da Sefydlir prosiect newydd ym mis Ebrill i gynnig cefnogaeth i rhieni â glas lanciau. Bydd hyfforddiant ar gael i rhoi offer a chyfarfodydd cefnogol i gadw'r syniadau'n ffres a phwrpasol. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan 'The Youth Offending Team' a'r Parent Network. Cysylltwch â Mel Ovens am fwy o wybodaeth. Taith Tredomen Fel aelodau o 'Parent Network Bwrdeisdref Sirol Caerffili' fe'm gwahoddwyd I ymweld â siamber y cyngor I sgwrsio â llawer o'r cynghorwyr, gan Gadeirydd Caerffili sef Mr Kevin Viney. (Dydd Iau 6ed o Fawrth). Cafod y rhieni groeso twym galon acfe ddechreuodd y dydd dros baned o dê a gwên. Cyflwynodd y Cyng Viney a'I wraig eu hunain I'r rhieni a aedd yn bresennol. Gwnaeth pawb ei ffordd I'r man lle mae busnes holl bwysrrsg Bwrdeisdref Caerffili yn cael ei gynal sef Siamber y Cyngor. Y Cynghorwyr a siaradodd â ni oedd: Cyflwynodd Cyng Viney y rhieni I'r Cyng Alan Pritchard a'r Cyng Phil Bevan a esboniaodd, rhyngddynt sut mae'r llwyodraeth leol yn gweithio - beth yn union yw ei rôl, beth sy'n digwydd mewn cyfarfodydd a ble mae'r gwahanol gynghorwyr yn eistedd. Wedyn, adroddodd Miskey Hanson hanes y 'Parent Network' i'n 'hosts' a hefyd sôn am y prosiectau mae'r aelodau yn gweithio arnynt ar hyn o bryd. Yn dilyn , cafwyd trafodaeth a gofynwyd ag atebwyd cwestynau ar y naill ochr a'r llall. Arôl rhoi'r byd yn ei le mwynheuodd pawb y pryd ysblennydd o fwyd a ddarparwyd ar ein gyfer, gan gynnwys Elliot a Morgana, aelodau ifanca'r 'Parent Network' a oedd yn bresennol. Blasodd rai hyd yn ord y caviar a gwahanol fathau gwsberis; roeddwn i, a rai eraill o'r rhieni yn meddwl mai blodau oeddynt!. Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach roedd y 'Parent Network' yn hapus i dderbyn ymweliad gan y Cyng, Viney a;i wraig i'n safle yn Aberbaroed i weld ein gwaith mewn bodolaeth. Hoffai'r 'Parent Network' ddiolch i aelodau 'Cabinet' ac i Mrs Viney a aeth i'r drafferth i groesawu'r rhieni ac i ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. |