Tudalen
Gartref
Newyddion
Tudalen
Gwytbodaeth
Tudalen
tadau
Lleisio
eich
barn!
Hysbysfwrdd
Cysylltiadau
Gwefannau
defnyddiiol
eraill
Cysylltu
/Gwybodaeth
|
Ychydig
am y 'Parent Network'
Pam dod at ein gilydd.
Yn
y gorffennol doedd rhieni ddim yn cael eu hymgynghori ynglyn â pha
wasanaethau roeddent eu heisiau; h.y.o bethau mor sylfaenol a chylchoedd
rhieni a phlant bach, at addysg a materion iechyd.
O fis Ebrill 2000 ymwelwyd â rhieni mewn gwahanol safleoedd a gofynnwyd
eu barn am y ddarpariaeth a gynnigir yn eu hardaloedd. Aethpwyd ati i
gyhoeddi llyfr ar 'Consulting Parents, Families & Carers in Caerphilly
County Borough' ar sail y wybodaeth a gasglwyd. Roedd y rhieni yn awyddus
iawn i ffurfio panel a fyddai'n cynrychioli'r rhieni, a dyna sut y daeth
y 'The Parent Network' i fodolaeth.
Cynhaliwyd
y cyfarfod cyntaf ym Mis Mawrth 2001 mewn swyddfa 'fenthyg' gyda dwy gyd-lynydd
a saith rhiant. Rydym wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn, mae ein
canolfan barhaol yn 'The Right from the Start House' yn Aberbargoed.
Mae
rhieni o amrywiol gefndir yn gysylltiedig â ni fel:
|
- Rhiant
dall sy'n defnyddio'r prosiect Barnados
- Mam-gu
a Tad-cu
- Teuluoedd
â phlant ag anghenion arbennig
- Tadau,
naill ai'n byw gyda'u plant neu'n absennol
- Rhieni
maeth
- Rhieni
sengl
- Mamau
/ Tadau'n gyffredinol
- Rhieni'n
cynrychioli gwahanol grwpiau, megis 'Homestart'
|
 |
Mae'r
rhieni yma i gyd eisiau gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau. |
Y
'Parent Network' heddiw
Rydym yn cwrdd unwaith y mis a'r rhieni sy'n rhedeg y cyfarfodydd, fel
Cadeirydd, Ysgrifennydd agyb. Yn y cyfarfodydd rydym yn trafod materion
sy'n berthnasol i rhieni yng Nghaerffili, yn annog pob rhiant i gael eu
dweud ac i archwilio materion newydd sy'n cael eu cynnig mewn trafodaethau.
Gall
rhiant a gwarchodwr fod yn rhan o'r wefan, pam na wnewch chi ein e-bostio
ni nawr?
Dyma
rai o ddyfyniadau gan rhieni / gwrchodwyr ar sut a pham y daethant
yn gysylltiedig â'r Wefan.
"It
is a good way to find out what is going on in the area".....Vanessa
Thomas.
"I
visited many Parent and Toddler groups and listened to so many
parents chatting about their problems (moaning) to other parents,
I wanted to make a difference and voice my concerns to people
who could help"....Nicola Morgan (single parent rep)
|
|