The Parent Network, Caerphilly - information exchange for parents in Southern Wales and beyond!

Tudalen Newyddion

Tudalen
Gartref

Amdanom ni

Tudalen
tadau

Lleisio eich
barn!

Cysylltiadau Gwefannau
defnyddiiol
eraill

Cysylltu
/Gwybodaeth

"Gwasanaeth Gwybodaeth Plant"

Lansiwyd Gwasanaeth Gwybodaeth Plant (GGP) yn swyddogol ar Mai 5ed yng Nghastell Caerffili. Mynychwyd y lansio gan Peter Clarke, Comisiynydd y Plant, a gwahoddwyd plant o'r grwpiau chwarae lleol i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud â thema'r dydd sef y Canol Oesoedd. Lansiwyd gwefan y GGP yr un pryd a gelli cael manylion pellach ar www.caerphilly.gov.uk/cis . Hefyd gelli'r cael gwybodaeth ynglyn â gofal plant ar Llinell Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Gymorth 01443 863232.


Cynrychiolwyr Rhieni Ar Y Grwpiau Cynllunio

Bu cyfarfod o'r 'Parent Network' ar yr 27ain o Ebrill ac etholwyd cynrych iolwyr rhieni ar y ar y grwpiau canlynol.

Cymorth
Partneriaeth Plant
Partneriaeth Pobl Ifanc
Ehangu Blynyddoedd Cynnar
Cyfathrebu
Grantiau ag Ansawdd
Sgiliau Sylfaenol
Canolfan Blant Integredig

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech i'r cynrychiolwyr godi ar eich rhan, cystyllwch â Ann am fanylion pellach ar sut i wneud hynny.


Adolygu Llyfrau

'The Secret of Happy Children' : Steve Biddulph

Roedd y llyfr yn ardderchog. Mae cymaint o lyfrau ar sut i fod yn rhiant da yn 'bregethwrol' ag yn drwm iawn ond, mae llyfr Steve Biddulph yn llawn gwybodaeth defnyddiol a pherthnasol tra'n dal i fod yn ddarllenadwy a doniol.

Ann Fritter

'Raising Boys' : Steve Biddulph

Mae'r llyfr yn llawn gwybodaeth ar sut mae bechgyn yn datblygu. Mae'n cydnabod bod bechgyn yn wahanol i ferched ac felly yn meddu ar broblemau penodol y mae rhieni yn

gorfod eu delio â nhw. Baswn i hefyd yn argymell y llyfr ar gyfer unrhyw fenyw sy â dyn yn ei bywyd - mae'n egluro rhai pethau!!

Ann Fritter

Blue Bottle Mystery - An Asperger Adventure : Kathy Hoopmann

Mae'r llyfr yn ymdrin â Ben sy'n darganfod ei fod yn dioddef o Aspergers. Mae'r stori yn archwilio ei deimladau a sut mae'n delio gyda pherthynas. Mae'n lyfr plant da a bydd o help i unrhyw un a phlentyn Aspergers i archwilio materion gyda'r plentyn, ffrindiau, a'r teulu.

Ann Fritter


Eisiau gwneud sylw? - Oes llyfr gyda chi yr hoffech chi nodi (yn dda, ddrwg) - gadewch i ni wybod.